Zechariah 11

1Agor dy giatiau, Libanus,
a bydd tân yn llosgi dy goed cedrwydd.
2Bydd y coed pinwydd yn udo,
am fod y coed cedrwydd wedi syrthio –
mae'r coed mawreddog wedi eu difrodi.
Bydd coed derw Bashan yn udo,
am fod y goedwig drwchus wedi ei thorri i lawr.
3Gwrandwch ar y bugeiliaid yn udo –
am fod y borfa odidog wedi ei difetha!
Gwrandwch ar y llewod ifanc yn rhuo –
am fod coedwig yr Iorddonen wedi ei difa!

Y ddau fugail

4Dyma mae'r Arglwydd fy Nuw yn ei ddweud: “Bugeilia'r praidd sydd i fynd i'r lladd-dy. 5Mae'r rhai sy'n eu prynu yn eu lladd heb deimlo unrhyw gywilydd. Mae'r rhai sy'n eu gwerthu yn diolch i'r Arglwydd am eu gwneud nhw'n gyfoethog. A dydy'r bugeiliaid yn poeni dim amdanyn nhw. 6Ac o hyn ymlaen, fydda i'n poeni dim am bobl y wlad yma,” meddai'r Arglwydd. “Bydda i'n eu troi nhw yn erbyn ei gilydd, a rhoi pob un yng ngafael ei frenin. Bydd y rheiny'n dod â dinistr i'r wlad, a fydda i'n achub neb o'u gafael.”

7Felly dyma fi'n bugeilio'r praidd oedd i fynd i'r lladd-dy ar ran y masnachwyr. Cymerais ddwy ffon, a galw un yn "Haelioni" a'r llall yn "Undod". Yna es i fugeilio'r praidd 8a sacio'r tri bugail mewn un mis. Roeddwn wedi colli pob amynedd gyda'r masnachwyr, a doedd ganddyn nhw ddim parch ata i chwaith. 9Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dw i ddim am ofalu am y praidd i chi! Y rhai sydd i farw, cân nhw farw. Y rhai sydd i fynd ar goll, cân nhw fynd ar goll. A'r rhai fydd yn dal yn fyw, cân nhw fwyta cnawd ei gilydd!”

10Yna dyma fi'n cymryd fy ffon "Haelioni", a'i thorri, i ddangos fod yr ymrwymiad wnes i gyda phobl Israel i gyd wedi ei ganslo. 11Cafodd ei ganslo y diwrnod hwnnw, ac roedd y masnachwyr oedd yn fy ngwylio i yn gwybod fod hyn yn neges gan yr Arglwydd.

12Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Os ydych chi'n fodlon, rhowch fy nghyflog i mi. Os na, anghofiwch am y peth.” Felly dyma nhw'n talu tri deg darn arian yn gyflog i mi.

13A dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho i, “Tafla eu harian ‛hael‛ nhw i'r trysordy!” Dyna'r cwbl roedden nhw'n meddwl oeddwn i'n werth! Felly dyma fi'n rhoi'r arian i drysordy teml yr Arglwydd. 14Yna dyma fi'n cymryd y ffon arall, "Undod", a thorri honno, i ddangos fod y berthynas rhwng Jwda ac Israel wedi darfod.

15A dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho i, “Cymer offer bugail eto – bugail da i ddim. 16Dw i'n rhoi arweinydd i'r wlad yma – bugail fydd yn poeni dim am y defaid sy'n marw, nac yn mynd i chwilio am y rhai sydd wedi crwydro. Fydd e ddim yn iacháu'r rhai sydd wedi eu hanafu, nac yn bwydo'r rhai iach. Ond bydd yn bwyta cig yr ŵyn gorau, a thorri eu carnau i ffwrdd.

17Mae ar ben ar fy mugail diwerth
sy'n troi cefn ar y praidd!
Bydd cleddyf yn taro ei fraich
ac yn anafu ei lygad dde.
Bydd yn colli defnydd o'i fraich,
ac yn cael ei ddallu yn ei lygad dde!”
11:17 Bydd cleddyf … ei lygad dde! Roedd y fraich dde yn symbol o gryfder a grym (gw. Eseia 51:9; Eseciel 30:21). Byddai milwr yn edrych heibio ei darian gyda'i lygad dde. Felly doedd dyn oedd yn ddall yn ei lygad dde yn dda i ddim fel milwr.

Copyright information for CYM